SWYDDOG Y DDALFA
CEF PARC, PEN-Y-BONT AR OGWR
Oriau: 40 awr yr wythnos
Parhaol, Llawn Amser gyda shifftiau amrywiol
Cyflog Cychwynnol £29,500
Ar ôl 1 flwyddyn o wasanaeth£29,900
Ar ôl 2 flynedd o wasanaeth £31,500
Buddion:Pensiwn y Cwmni, parcio am ddim ar y safle, ffreutur staff, gwisg am ddim, mynediad i ostyngiadau yn Siopaur Stryd Fawr, gostyngiadau Campfa leol a hyfforddiant a datblygiad helaeth.
Byddwch y person hwnnw syn gwneud gwahaniaeth bob dydd, y cyfle i wneud swydd eithriadol
Ydych chin gyfathrebwr da? A oes gennych wydnwch? Gwrandäwr da?
Mae Swyddogion Dalfeydd Carchar (PCOs) yn allweddol i redeg ein carchardai yn effeithiol ac rydym yn chwilio am bobl syn gallu ffition naturiol ir rôl hon. Nid oes y fath beth â Swyddog Dalfa Carchar ‘nodweddiadol. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o ystod amrywiol o gefndiroedd, syn dangos yr uniondeb, y gwydnwch ar sgiliau cyfathrebu cryf sydd eu hangen i ffynnu yn y rôl hon. Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol na phrofiad perthnasol.
Athroniaeth ein carchardai yw adsefydlu troseddwyr au harfogi i ailintegreiddio i gymdeithas brif ffrwd ar ôl eu rhyddhau. Rydym yn ceisio normaleiddio amodau carchardai cyn belled ag y bo modd i adlewyrchu bywyd yn y gymuned y tu allan. Ein nod yw creu amgylchedd lle mae staff a charcharorion yn teimlon ddiogel.
Bydd gan y bobl yn eich gofal amrywiaeth o anghenion ach rôl chi fydd sicrhau bod yr unigolion hynnyn cael eu trin ag urddas a pharch ac yn cael cymorth i ddod o hyd i ffordd newydd o fyw tran cynnal amgylchedd diogel, sicr a strwythuredig.
Bydd gennych nifer o gyfrifoldebau allweddol syn cynorthwyo diwygio Carcharorion, yn ogystal â chwarae rhan allweddol wrth ddarparu strwythur a threfn arferol i garcharorion, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y gwaith yn y bore, yn cymryd rhan weithredol mewn addysg a chyfundrefn y carchar au bod yn ddiogel yn eu cell gydar hwyr.
Pan fyddwch yn ymuno â ni, gallwch fod yn sicr y byddwch yn canfod amgylchedd gwaith diogel, cyfeillgar a phroffesiynol ac yn cael yr holl gefnogaeth, hyfforddiant ac anogaeth sydd eu hangen arnoch. Yn ogystal, rydym wedi lansio ein Llwybr Datblygu yn ddiweddar, syn darparu datblygiad gyrfa clir o Swyddog y Ddalfa i fod yn rheolwr canol, pe bai hynny o ddiddordeb i chi hefyd.
Mae eich hyfforddiant cychwynnol yn para am 8 wythnos, lle byddwch yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr syn cynnwys Rheoli ac Atal, Cymorth Cyntaf, sgiliau rhyngbersonol ac Iechyd a Diogelwch.
Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan bwysig o Wasanaeth Gofal ac Adsefydlu G4S. Rydym yn annog ceisiadau o bob cefndir ac rydym yn gyflogwr cwbl gynhwysol syn ceisio cefnogir holl weithwyr i fod eu hunain. Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol naill ai ar gyfer y rôl neu yn ystod y broses recriwtio.
Mae G4S CaRS wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion syn wynebu risg a disgwylir i bob gweithiwr gefnogir nodau hyn.
Mae ein hyfforddiant an harferion gweithredol yn pwysleisior angen i drin carcharorion ag urddas a pharch ac mae staff G4S yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol gydar carcharorion yn eu gofal.
Mae gan ein tîm gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth ac rydym yn annog pobl i wellar ffordd rydym yn gweithredu a datblygu ffyrdd newydd o weithio i wella diogelwch a chefnogi carcharorion yn well. Os ymunwch â ni, byddwch mewn amgylchedd gwaith diogel, cyfeillgar a phroffesiynol ac fe gewch yr holl gefnogaeth, hyfforddiant ac anogaeth sydd eu hangen arnoch i adeiladu a datblygu gyrfa lwyddiannus gyda ni.
Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith.
Am rhagor o wybodaeth am CEF Parc, ewch ihttps://hmpparc.co.uk/
Sylwch fod y swyddi gwag hyn yn amodol ar hanes 5 mlynedd y gellir ei wirio ar safonau fetio llym a osodwyd gan G4S, a HMPPS ac maent wediu heithrio or Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr.